Polisi preifatrwydd y Wefan

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well a rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar ei thudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ni ei gwneud yn haws i ddefnyddio’r wefan a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni chaiff y data’i ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis ar ein gwefan:

GoogleAnalytics __utma,  __utmb,  __utmc a  __utmz

Diben : Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Mae modd rheoli rywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.
Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennym?
Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis” a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar serfwyr Google yn yr Unol Daleithiau.
Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Llawn Google am yr wybodaeth fanwl.

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Diweddarwyd 5 Mehefin 2018